Offeryn diagnostig yw Gwirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth sydd wedi'i addasu ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a'r rhai yn y sector cymunedol, ynghyd â mentrau cymdeithasol a leolir yn y DU, sydd naill ai yn gyfrifol, neu sy’n dymuno bod yn gyfrifol, am dreftadaeth. Cafodd ei gynllunio i'w cynorthwyo i ddadansoddi eu sefydliad ac i nodi meysydd y gellid eu datblygu i wella cryfder sefydliadol.
Rydym yn gwybod bod cynllunio'n effeithiol ar gyfer datblygu a thwf, ac ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor sefydliad, yn gallu bod yn heriol, ac mae’n gweithio orau pan fydd yn cynnwys cam diagnostig, er mwyn helpu i ddeall y darlun cyfredol a'r meysydd cryf a gwan mewn perfformiad sefydliad. Gallai buddion defnyddio'r offer hwn fod yn sylweddol hefyd o ran helpu eich sefydliad i ddeall lle y mae angen iddo ganolbwyntio i fod yn "barod ar gyfer buddsoddiad" – hynny yw, bod â’r systemau, prosesau a model busnes ar waith a fydd yn gallu denu buddsoddiad.
Mae'r Gwirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth wedi cael ei ddatblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o'i ddull o ariannu gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar feithrin gallu a gwydnwch sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth. Gall grantiau'r Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth gynorthwyo sefydliadau dielw unigol, neu bartneriaethau neu gonsortia o sefydliadau dielw yn y DU i ddarparu ystod eang o weithgareddau i adeiladu eu capasiti neu gyflawni newid amcanion strategol sylweddol. Gellir gwneud hyn drwy gaffael sgiliau neu wybodaeth newydd, neu fodelau llywodraethu newydd, arweinyddiaeth, busnes ac incwm – er mwyn gwella'r broses o reoli treftadaeth ar gyfer y tymor hir.
Mae'r Gwirydd Cryfder yn gwbl rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac rydym yn annog yn gryf yr holl ymgeiswyr, yn enwedig y rheini y mae eu prosiectau yn canolbwyntio ar weithgarwch meithrin gallu, i gynnwys copi o'r adroddiad y bydd y gwirydd cryfder yn ei gynhyrchu gyda'u cais.
Mae’r adroddiad wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau i nodi eu hanghenion a’u blaenoriaethau a dylech allu dangos sut yr ydych wedi defnyddio canfyddiadau’r offeryn yn eich gwaith cynllunio prosiect, ac yn rhan o'ch cais. Gall y Gwirydd Cryfder fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych yn cyflwyno cais am gyllid gan gyllidwyr eraill, megis ymddiriedolaeth neu sefydliad.
AR GYFER PWY?
Sefydliadau sydd wedi bod yn gweithredu am ddwy flynedd neu fwy fydd yn elwa mwyaf ar y Gwirydd Cryfder. Gellir ei ddefnyddio gan sefydliad sydd o unrhyw faint neu o unrhyw fath, er y bydd yn fwy defnyddiol ar gyfer sefydliadau bach a chanolig eu maint sydd ag incwm blynyddol o dros £10,000.
SUT MAE'N GWEITHIO?
Bydd y Gwirydd Cryfder Treftadaeth yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau i chi ynglŷn â'ch sefydliad.
Byddai'n well i chi ei lenwi fel tîm rheoli ar y cyd. Efallai y byddai'n fuddiol i gynnwys "ffrind beirniadol" allanol i herio eich ffordd o feddwl.
Yn y pen draw, byddwch yn derbyn adroddiad personol sy'n pwysleisio cryfderau eich sefydliad, a'r meysydd sydd i'w datblygu er mwyn adeiladu effeithiolrwydd craidd.
Adroddir ar y rhain o dan y penawdau canlynol:
- Cynaliadwyedd
- Marchnata a chyfleoedd
- Strategaeth a chynlluniau
- Hanes blaenorol a gallu
- Ansawdd ac effaith
- Asedau.
Gellid defnyddio'r adborth hwn fel canllawiau ar gyfer unrhyw waith y byddwch yn ymgymryd ag ef i gryfhau eich sefydliad.
BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL
Yn wahanol i grantiau a rhoddion, cyllid yw buddsoddiad cymdeithasol a gynigir i sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol, a mentrau cymdeithasol, gyda'r disgwyliad y bydd y buddsoddwyr yn cael eu harian yn ôl, gyda llog yn aml, a bod y buddsoddiad yn galluogi newid cymdeithasol.
Mae buddsoddiad cymdeithasol yn fwy dymunol fel opsiwn ariannu i lenwi bylchau ariannu ar gyfer arloesedd a thwf ac ar gyfer cynaliadwyedd ac ymreolaeth.
Os ydych yn meddwl am sut y gallai buddsoddiad cymdeithasol gefnogi eich sefydliad, yna efallai y byddwch am ystyried gwneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi'r broses hon.
Gall grantiau'r Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth gael eu defnyddio i wella cynaliadwyedd, capasiti a graddfa sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, sydd wedi, neu sy'n ymgymryd â chyfrifoldeb dros dreftadaeth, i roi mwy o effaith gymdeithasol a chael mwy o apêl i fuddsoddwyr cymdeithasol.