Eich data personol
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn enw gweithredol Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghyd â creative.coop, sy’n cefnogi gwefan Gwirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth, yn Gyd-reolwyr Data ar gyfer y data personol a rhoddwyd i ni.
Beth sydd ei angen arnom
Rydym yn casglu data personol sylfaenol amdanoch chi yn unig nad yw'n cynnwys unrhyw gategorïau arbennig o ddata personol ('data sensitif'). Mae'r wybodaeth a gasglwn yn cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.
Pam fod angen hyn arnom
Rydyn ni eisiau eich data personol sylfaenol er mwyn i ni anfon newyddion neu hysbysiadau penodol atoch drwy e-bost. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol na fyddwn ei angen er mwyn darparu neu oruchwylio’r gwasanaeth yma i chi.
Beth fyddwn yn ei wneud ag ef
Mae ein staff yn y DU yn prosesu'r holl ddata personol yr ydym yn ei brosesu. Nid oes gan 3ydd parti fynediad i'ch data personol oni bai fod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.
Mae gennym drefn Diogelu Data ar waith i oruchwylio prosesu a storio eich data personol yn effeithiol a diogel.
Am ba hyd y byddwn yn ei gadw
Bydd y data personol a ddefnyddiwn ar gyfer anfon newyddion neu hysbysiadau i chi trwy e-bost yn cael ei gadw gennym nes i chi roi gwybod i ni nad ydych chi am dderbyn y wybodaeth yma mwyach, neu os na fydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi'r Gwiriad Cryfder bellach, yna bydd y wybodaeth bersonol yn cael ei dileu.
Yr hyn yr hoffem hefyd ei wneud ag ef
Fodd bynnag, hoffem ddefnyddio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn i'n gwerthuswyr (a gontractiwyd gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) gysylltu â chi o bryd i'w gilydd drwy e-bost fel rhan o'r gwerthusiad parhaus o'n cyllid er mwyn casglu eich adborth ar y gwiriwr cryfderau.
Beth yw eich hawliau?
Os ydych chi o'r farn fod y wybodaeth sydd gennym arnoch yn anghywir ar unrhyw adeg, gallwch ofyn am weld y wybodaeth yma a'i chael wedi'i chywiro neu ei dileu. Os hoffech chi gwyno ynghylch sut yr ydym wedi trin eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data Colin Bailey ( Colin.Bailey@heritagefund.org.uk ) a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu’n credu nad ydyn ni’n prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/).