Darllen Pellach

Unwaith i chi orffen eich adroddiad Gwirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth, gallech ddymuno, o bosibl, cyflawni gwaith i fanteisio ar eich cryfderau, hwbio rhannau eraill o'ch galluoedd sefydliadol, ac i'ch helpu i gynllunio eich camau nesaf.

I wneud hyn, gallech fod ag angen cefnogaeth ffurffiol a/neu anffurfiol gan gymheiriaid a/neu arbenigwyr. Mae nifer o gynlluniau cenedlaethol a lleol, a sefydliadau sydd wedi datblygu adnoddau, er mwyn cefnogi'r sector. Rhestrir rhai o'r rhain isod.

Cefnogaeth ac arweiniad ynghylch adeiladu gallu a buddsoddi cymdeithasol

Adnoddau yn benodol i’r sector treftadaeth:

 

Prosiectau Ymbarél Catalydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Gwnaeth grantiau ymbarél catalydd gefnogi sefydliadau i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer y sector treftadaeth. Ceisiodd prosiectau a ariannwyd annog mwy o roddion preifat ar gyfer diwylliant a threftadaeth ac adeiladu gallu a sgiliau sefydliadau diwylliannol a threftadaeth i godi arian gan roddwyr preifat, ffynonellau corfforaethol, ac ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae dolenni at y prosiectau a ariannwyd dan y rhaglen hon isod.

 

 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol-ein rhaglenni ariannu

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni ariannu ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.