Darllenwch y nodiadau canlynol er mwyn elwa fwyaf ar Wirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth.
Cynlluniwyd y Gwirydd Cryfder i'ch cynorthwyo chi wrth gynllunio i sicrhau eich dyfodol yn y tymor hir a diogelu'r gwasanaethau a ddarperir gennych ar gyfer eich buddiolwyr.
Bydd yn cymryd tua 45 munud hyd at un awr i'w gwblhau (gallwch gadw eich atebion a dychwelyd atynt faes o law). Bydd y Gwirydd Cryfder yn fwyaf defnyddiol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a’r rhai yn y sector cymunedol, a'r rheiny sydd wedi bod yn gweithredu am ddwy flynedd neu fwy, er y gall sefydliadau o unrhyw faint neu unrhyw fath ei ddefnyddio. Mae'r broses o ystyried eich dyfodol, eich cryfderau a'ch meysydd i'w datblygu, a symud cynllunio tymor byr a thymor hir yn ei flaen, yn hanfodol ar gyfer eich sefydliad, ac rydym yn gobeithio y bydd cwblhau'r Gwirydd Cryfder yn eich helpu.
Er mwyn defnyddio'r Gwirydd Cryfder, bydd angen i chi gofrestru ar-lein. Bydd angen rhoi cyfeiriad e-bost dilys i gwblhau cofrestriad.
Gallwch gwblhau'r offeryn hwn yn y Gymraeg hefyd.
Er mwyn elwa fwyaf ar yr adolygiad hwn:
· Rhowch atebion agored a gonest i'r cwestiynau.
· Ystyriwch ymateb i'r cwestiynau fel tîm rheoli ar y cyd. Bydd ymateb i'r cwestiynau hyn yn cymryd ychydig mwy o amser os ydych yn eu trafod â'ch cydweithwyr, ond byddwch yn dysgu mwy ynglŷn â'ch sefydliad a'r hyn y mae eraill yn ei feddwl.
· Ystyriwch ddefnyddio "ffrind beirniadol" allanol er mwyn i chi allu herio eich hun yn wirioneddol.
Gwnewch yn siŵr bod gennych y dogfennau canlynol wrth law:
· Eich cyfrifon archwiliedig diweddaraf
· Eich cyfrifon rheoli diweddaraf
· Strwythur eich staff
· Eich cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf
· Gwybodaeth am godi arian/cynhyrchu incwm a dadansoddiadau ynglŷn â hyn.
Rhai argymhellion ynglŷn â sut i ddefnyddio'r Gwirydd Cryfder
· Gallwch anwybyddu cwestiwn a dychwelyd ato yn hwyrach.
· Cewch newid eich atebion ar unrhyw adeg.
· Mae rhai cwestiynau yn cynnwys llithryddion er mwyn caniatáu i chi gofnodi eich atebion. Gosodwch y llithrydd yn y lleoliad sydd fwyaf addas ar gyfer eich sefydliad yn eich barn chi yn ôl y disgrifiadau a roddir. Os ydych chi'n cael trafferth wrth ddewis rhwng dau ddisgrifiad, gallwch symud y llithrydd i leoliad addas rhwng y ddau ohonynt.
· Peidiwch â phoeni gormod ynglŷn â lleoliad manwl cywir y llithrydd. Ni fydd symudiad bach yn effeithio'n fawr iawn ar bethau – mae meddwl am yr hyn y mae'r cwestiwn yn ei olygu a sut y gallwch wella yn llawer mwy pwysig.
CYMORTH
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru neu ddefnyddio'r Gwirydd Cryfder, ewch i'n Hadran Cwestiynau Cyffredin, sy'n cynnwys atebion i bob un o'r problemau mwyaf cyffredin. Os nad oes ateb i'ch cwestiwn yn ein Hadran Cwestiynau Cyffredin, gallwch gysylltu â'n tîm cymorth drwy ddefnyddio'r ffurflen we a ddarperir